CYFLWYNIAD I YSTYR A BWRIAD Y DDEDDF:
Llenwch i fod yn rhan o’r mudiad
ARDALOEDD LLEOL
Hofran dros y map am fwy o wybodaeth
DYFFRYN AMAN
Hwn yw’r dyffryn mwyaf gorllewinol o’r pum dyffryn yn y sir ac mae’n borth i ardal y Mynydd Du ar gwr gorllewinol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Mae’r lleoliad yn golygu bod Dyffryn Aman wedi’i amgylchynu gan fryniau a cheir mynediad i ardaloedd cyfagos cefn gwlad trwy nifer o hawliau tramwy. Mae’r llinell reilffordd segur sy’n mynd trwy’r ardal yn goridor gwyrdd a chyfleuster hamdden pwysig.
Yn Nyffryn Aman, mae pwyslais cryf ar ddiwylliant, treftadaeth, gwerthoedd a thraddodiadau Cymreig ac ar sicrhau eu bod nhw’n cael eu trosglwyddo i’r genhedlaeth nesaf trwy ddigwyddiadau diwylliannol.
• Yng nghanol Dyffryn Aman mae Gwauncaegurwen, pentref glofaol gynt a man geni cyn-faswr rhyngwladol Cymru, Gareth Edwards.
• Yr ardal hon sydd â’r ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghastell-nedd Port Talbot, sef 57.3%.
CASTELL-NEDD
Datblygodd Castell-nedd yn dref farchnad ar gyfer ardaloedd gwledig y cymoedd cyfagos. Saif tirnod y dref, tŵr cloc Eglwys Dewi Sant, yng nghanol y dref. Yn y dref, mae amrediad o siopau, caffis, tafarndai a marchnad dan do Fictoraidd sy’n gartref i nifer o stondinau arbenigol sy’n gwerthu cynnyrch lleol.
Mae adfeilion Mynachlog Nedd ar gyrion y dref, tra bod Castell Castell-nedd, sy’n adeilad rhestredig gradd II, yn y dref ei hun. Mae Castell-nedd hefyd yn gartref i glwb rygbi hynaf Cymru, sef Clwb Rygbi Castell-nedd.
Mae tirwedd ardal gymunedol Castell-nedd yn gyfoethog ac amrywiol gyda chynefinoedd coetir, gwlyptir, twyni a gorlifdir. Ymhlith y rhain mae Cors Crymlyn, a ddynodwyd yn Ardal Gadwraeth Arbennig Ewropeaidd, a’r Warchodfa Natur Genedlaethol yn Ffen Pant y Sais.
• Cafodd Parc Gwledig Ystâd y Gnoll ei enwi yn ddiweddar yn un o fannau gwyrdd gorau’r wlad ac yn un o enillwyr Gwobr y Faner Werdd.
• Mae Camlas Nedd a Chamlas Tennant yn cysylltu cynefinoedd ecolegol pwysig ar hyd yr ardal ac fe’u defnyddir yn helaeth ar gyfer cerdded a beicio yn ogystal.
• Mae datblygu ac adfywio sylweddol ar waith ar hyn o bryd yng nghanol tref Castell-nedd.
PONTARDAWE
Lleolir tref Pontardawe, neu’r ‘Bont’ fel mae rhai’n ei galw, ar lan afon Tawe. Tirnod y dref yw’r meindwr 197 troedfedd o uchder ar eglwys San Pedr.
Tref Pontardawe yw’r trydydd anheddiad mwyaf yn y Fwrdeistref Sirol a’r anheddiad mwyaf yn yr ardal gyfagos. Darperir amrediad o wasanaethau adwerthu, cyfleusterau hamdden a sefydliadau addysg yng nghanol y dref. Mae Canolfan y Celfyddydau, Pontardawe, yng nghanol y dref, wedi ennill ei phlwyf fel un o ganolfannau diwylliannol gorau De Cymru, ac mae’n denu artistiaid o bedwar ban byd.
Mae digonedd o fannau agored yn ardal gymunedol Pontardawe ynghyd â rhwydwaith da o lwybrau troed cyhoeddus a llwybrau beicio. Mae Coetir Cwm Du a Phlanhigfa Glanrhyd yn union i’r gogledd-orllewin o Bontardawe, taith gerdded fer yn unig o ganol y dref.
• Mae Camlas Abertawe yn bwysig o safbwynt bywyd gwyllt, mae llawer o nodweddion hanesyddol yn perthyn iddo ac mae’n llwybr cerdded/beicio hyfryd rhwng Clydach a Phontardawe. Parc Glantawe
• Mae 25.8% (3,335) o drigolion Pontardawe yn gallu siarad Cymraeg.
CWM AFAN
Mae Cwm Nedd mewn safle da o ran seilwaith gyda ffordd yr A465, sy’n ymestyn i sir gyfagos Rhondda Cynon Taf, yn darparu mynediad i bob rhan o’r Cwm.
Mae’r amgylchedd naturiol yn cynnig sawl cyfle o ran amwynder a hamdden. Gan fod cynifer o raeadrau yng Nghwm Nedd ac ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog gerllaw, adwaenir yr ardal fel Gwlad y Sgydau. Bellach, mae camlas Nedd a ddefnyddid ar un adeg i gludo glo wedi cael ei adfer ac fe’i defnyddir bellach ar gyfer caiacio a hamdden anffurfiol.
Mae’r ardal yn cynnwys dyffryn serth a choediog iawn gyda choed conifferaidd yn bennaf a pheth coetir hynafol. Mae’r ardal goediog yn gartref i amryw o rywogaethau prin a rhywogaethau a warchodir, gan gynnwys y gylfingroes, gwalch Marthin, a boda’r mêl.
• Mae Cwm Nedd yn wynebu problemau sylweddol o ran llifogydd o afon Nedd ei hun.
CWM NEDD

CWM DULAIS
Mae’r ardal gymunedol, sy’n ffinio â Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i’r gogledd, yn cynnwys nifer o atyniadau, megis Amgueddfa Cefn Coed, canolfan hyfforddi a siop goffi DOVE.
Bu’r ardal ar un adeg yn gartref i sawl glofa ond mae natur wedi’i hawlio’n ôl i raddau helaeth ac mae’r dirwedd bellach yn dawel ac yn llawn bywyd gwyllt. Mae hen hanes i’r ardal, a gafodd ei goresgyn ar un adeg gan y Rhufeiniaid a adeiladodd ddwy gaer gerllaw. Mae olion Sarn Helen, sef y ffordd Rufeinig bwysig a gysylltai tref Castell-nedd yn y de â Chaernarfon yng Ngogledd Cymru, yno o hyd.
Mae’r ardal yn tystio i’r ddibyniaeth ar lo, trwy amgueddfa Glofa Cefn Coed, ardaloedd glo brig wedi’u hadfer a gweddillion tomenni rwbel y glofeydd. Fodd bynnag, mae ganddi bellach rôl allweddol mewn cynhyrchu ynni adnewyddadwy gyda nifer o gynlluniau ynni dŵr yn darparu ynni adnewyddadwy ar brif afon Dulais a’i hisafonydd.
• Mae effaith carthion sy’n gorlifo o’r rhwydwaith a chamgysylltu draeniau domestig wedi achosi problemau yn nalgylch afon Dulais yn y blynyddoedd diwethaf.
PORT TALBOT
Yn enwog am ei threftadaeth ddiwydiannol, ei harfordir trawiadol a’r cefn gwlad o’i amgylch, gan gynnwys traeth Aberafan, sy’n un o’r traethau hiraf yng Nghymru ac yn cynnig cyfleoedd hamdden sylweddol i’r gymuned leol ac i ymwelwyr. Hefyd, Parc Gwledig Margam, a gafodd ei enwi’n ddiweddar yn un o fannau gwyrdd gorau’r wlad ac yn un o enillwyr Gwobr y Faner Werdd.
Mae Port Talbot yn gartref i rai o brif weithgynhyrchwyr y Deyrnas Unedig, megis Tata Steel a BOC. Mae traffordd yr M4 yn mynd trwy ganol y dref.
Port Talbot yw man geni Anthony Hopkins a Michael Sheen.
• Mae ansawdd y dŵr ymdrochi ger traeth Aberafan yn ‘ddigonol’ ar hyn o bryd.
• Cyhoeddwyd ardal rheoli ansawdd aer yn Nhaibach/Margam yn 2000 ar gyfer PM10. Gwelwyd gwelliannau sylweddol yn ansawdd yr aer ym Mhort Talbot yn y deng mlynedd diwethaf, ond rhaid ceisio sicrhau gwelliant pellach.
• Ardal Port Talbot yw’r gymuned sy’n wynebu’r risg fwyaf yn sgîl llifogydd yn ardal Castell-nedd Port Talbot ac mae’n un o’r deg cymuned risg uchaf yng Nghymru.
CWM TAWE
Mae cynnydd a dirywiad y diwydiannau haearn a glo yn yr ardal yn ystod y 200 mlynedd diwethaf yn golygu bod ymdeimlad cryf o dreftadaeth ddiwydiannol yn y Cwm. Camlas Abertawe a dyfrbont Ystalyfera yw rhai o’r arwyddion amlycaf o’r cyfnod hwn yn hanes y Cwm, ac mae’r rhain heddiw yn fannau tawel i fywyd gwyllt a cherddwyr.
Mae nifer mawr o weithgareddau awyr agored ar gael yng Nghwm Tawe, gan gynnwys llwybrau cerdded ar lan yr afon, ar hyd y gamlas ac ar y mynyddoedd, llwybr beicio rhif 43, llwybrau ceffylau, clybiau golff, pysgota a chyfeiriannu.
Cwm Tawe yw cartref yr ysgol gyfun Gymraeg hynaf yn y Fwrdeistref Sirol, yn Ystalyfera.
• Mae Cwm Tawe yn gartref i rywogaethau pwysig, megis yr Ehedydd a’r Ysgyfarnog. Mae coridorau afon a llethrau’r cwm yn cynnal coetir hynafol ac mae Camlas Abertawe yn bwysig o ran cysylltu cynefinoedd ar hyd yr ardal, gyda rhywogaethau allweddol fel y Forwyn Dywyll, sy’n fursen fawr.
• Mae llawer o siaradwyr Cymraeg yn yr ardal (44.1%)

Mae Cwm Afan yn agos iawn at sawl ardal drefol, boblog, gan gynnwys Abertawe, Castell-nedd, Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr. Yn wahanol i lawer o’r ardaloedd eraill, nid oes canolfannau mawr poblog yma, ac yn lle hynny mae nifer o bentrefi’n britho hyfrydwch cefn gwlad.
Ceir nifer o asedau treftadaeth adeiledig a diwylliannol cyfoethog ac amrywiol yng Nghwm Afan, sy’n cyflawni rôl allweddol o ran creu ymdeimlad o le a rhoi hunaniaeth leol i’r ardal.
Bernir bod amgylchedd naturiol a choedwig yr ardal yn un o’i hasedau pennaf. Mae’n enwog am ei llwybrau beicio mynydd ac ystyrir bod Parc Coedwig Afan ymhlith cyrchfannau beicio mynydd mwyaf eiconig y Deyrnas Unedig.
• Lleolir Fferm Wynt
Pen y Cymoedd yng Nghwm Afan ac mae’n un o’r ffermydd gwynt mwyaf ar y tir yn y Deyrnas Unedig, sy’n cynhyrchu mwy na digon o ynni i gyflenwi’r holl alw am drydan yng Nghastell-nedd Port Talbot a Rhondda Cynon Taf. Mae cynllun adfer cynefinoedd y fferm wynt yn cynnig dull gweithredu arloesol er mwyn adfer tirwedd hanesyddol a chynefinoedd yr ardal, gan gynnwys cannoedd o hectarau o fawndir sy’n cloi carbon i mewn.
• Cwm Afan yw man geni’r actor Richard Burton. Gellir gweld cerflun maint llawn ohono yng Nghwm Afan, wrth ochr y llwybr beicio lefel isel.
Hwn yw’r dyffryn mwyaf gorllewinol o’r pum dyffryn yn y sir ac mae’n borth i ardal y Mynydd Du ar gwr gorllewinol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Mae’r lleoliad yn golygu bod Dyffryn Aman wedi’i amgylchynu gan fryniau a cheir mynediad i ardaloedd cyfagos cefn gwlad trwy nifer o hawliau tramwy. Mae’r llinell reilffordd segur sy’n mynd trwy’r ardal yn goridor gwyrdd a chyfleuster hamdden pwysig.
Yn Nyffryn Aman, mae pwyslais cryf ar ddiwylliant, treftadaeth, gwerthoedd a thraddodiadau Cymreig ac ar sicrhau eu bod nhw’n cael eu trosglwyddo i’r genhedlaeth nesaf trwy ddigwyddiadau diwylliannol.
• Yng nghanol Dyffryn Aman mae Gwauncaegurwen, pentref glofaol gynt a man geni cyn-faswr rhyngwladol Cymru, Gareth Edwards.
• Yr ardal hon sydd â’r ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghastell-nedd Port Talbot, sef 57.3%.
Mae Cwm Nedd mewn safle da o ran seilwaith gyda ffordd yr A465, sy’n ymestyn i sir gyfagos Rhondda Cynon Taf, yn darparu mynediad i bob rhan o’r Cwm.
Mae’r amgylchedd naturiol yn cynnig sawl cyfle o ran amwynder a hamdden. Gan fod cynifer o raeadrau yng Nghwm Nedd ac ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog gerllaw, adwaenir yr ardal fel Gwlad y Sgydau. Bellach, mae camlas Nedd a ddefnyddid ar un adeg i gludo glo wedi cael ei adfer ac fe’i defnyddir bellach ar gyfer caiacio a hamdden anffurfiol.
Mae’r ardal yn cynnwys dyffryn serth a choediog iawn gyda choed conifferaidd yn bennaf a pheth coetir hynafol. Mae’r ardal goediog yn gartref i amryw o rywogaethau prin a rhywogaethau a warchodir, gan gynnwys y gylfingroes, gwalch Marthin, a boda’r mêl.
• Mae Cwm Nedd yn wynebu problemau sylweddol o ran llifogydd o afon Nedd ei hun.
Mae’r ardal gymunedol, sy’n ffinio â Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i’r gogledd, yn cynnwys nifer o atyniadau, megis Amgueddfa Cefn Coed, canolfan hyfforddi a siop goffi DOVE.
Bu’r ardal ar un adeg yn gartref i sawl glofa ond mae natur wedi’i hawlio’n ôl i raddau helaeth ac mae’r dirwedd bellach yn dawel ac yn llawn bywyd gwyllt. Mae hen hanes i’r ardal, a gafodd ei goresgyn ar un adeg gan y Rhufeiniaid a adeiladodd ddwy gaer gerllaw. Mae olion Sarn Helen, sef y ffordd Rufeinig bwysig a gysylltai tref Castell-nedd yn y de â Chaernarfon yng Ngogledd Cymru, yno o hyd.
Mae’r ardal yn tystio i’r ddibyniaeth ar lo, trwy amgueddfa Glofa Cefn Coed, ardaloedd glo brig wedi’u hadfer a gweddillion tomenni rwbel y glofeydd. Fodd bynnag, mae ganddi bellach rôl allweddol mewn cynhyrchu ynni adnewyddadwy gyda nifer o gynlluniau ynni dŵr yn darparu ynni adnewyddadwy ar brif afon Dulais a’i hisafonydd.
• Mae effaith carthion sy’n gorlifo o’r rhwydwaith a chamgysylltu draeniau domestig wedi achosi problemau yn nalgylch afon Dulais yn y blynyddoedd diwethaf.
Mae cynnydd a dirywiad y diwydiannau haearn a glo yn yr ardal yn ystod y 200 mlynedd diwethaf yn golygu bod ymdeimlad cryf o dreftadaeth ddiwydiannol yn y Cwm. Camlas Abertawe a dyfrbont Ystalyfera yw rhai o’r arwyddion amlycaf o’r cyfnod hwn yn hanes y Cwm, ac mae’r rhain heddiw yn fannau tawel i fywyd gwyllt a cherddwyr.
Mae nifer mawr o weithgareddau awyr agored ar gael yng Nghwm Tawe, gan gynnwys llwybrau cerdded ar lan yr afon, ar hyd y gamlas ac ar y mynyddoedd, llwybr beicio rhif 43, llwybrau ceffylau, clybiau golff, pysgota a chyfeiriannu.
Cwm Tawe yw cartref yr ysgol gyfun Gymraeg hynaf yn y Fwrdeistref Sirol, yn Ystalyfera.
• Mae Cwm Tawe yn gartref i rywogaethau pwysig, megis yr Ehedydd a’r Ysgyfarnog. Mae coridorau afon a llethrau’r cwm yn cynnal coetir hynafol ac mae Camlas Abertawe yn bwysig o ran cysylltu cynefinoedd ar hyd yr ardal, gyda rhywogaethau allweddol fel y Forwyn Dywyll, sy’n fursen fawr.
• Mae llawer o siaradwyr Cymraeg yn yr ardal (44.1%)
Crynodeb
Hofran dros y map am fwy o wybodaeth
• Economi Werdd: CNPT yw un o’r lleoliadau gweithgynhyrchu pwysicaf yn y Deyrnas Unedig o hyd, gyda’r cyfadeilad cynhyrchu dur mwyaf ym Mhort Talbot. Mae datgarboneiddio asedau economaidd pwysig fel hyn i gyrraedd targed Sero Net Llywodraeth Cymru yn her sylweddol. Er bod allyriadau carbon wedi lleihau yn CNPT yn ystod y degawd diwethaf, mae’r gostyngiad hwnnw’n is na’r cyfartaledd cenedlaethol. Fodd bynnag, mae cyfleoedd addawol ar gyfer twf yn y dyfodol yn gysylltiedig â datgarboneiddio, er enghraifft trwy weledigaeth Associated British Ports ar gyfer Dociau Port Talbot fel canolbwynt cynhyrchu â phwysigrwydd byd-eang ar gyfer tyrbinau gwynt oddi ar y lan.
• Gweithlu Medrus: Mae’r galwedigaethau’n dal â lefel is o sgiliau na chyfartaledd y Deyrnas Unedig. Mae angen i ni gydweithio i uwchsgilio ein gweithlu er mwyn ymateb i’r galw hirdymor am swyddi yn yr ardal.
• Adferiad wedi’r Pandemig: Mae cyflogaeth yn adfer wedi’r pandemig, ond mae angen cefnogaeth yng nghyswllt recriwtio i sectorau sy’n tyfu. Mae’r pandemig wedi rhoi cyfle i ni ailystyried sut rydyn ni’n gwneud pethau ac ailadeiladu’n well, mewn modd gwyrdd a theg, sy’n rhoi sylw i argyfyngau’r hinsawdd a byd natur.
• Terfynau Adnoddau Naturiol: Rydyn ni’n defnyddio stociau o’n hadnoddau naturiol ar gyflymdra sy’n anghynaliadwy, ac mae ein hecosystemau o dan bwysau a bygythiad cynyddol yn sgîl effeithiau’r newid yn yr hinsawdd, y newid yn y defnydd o dir, rhywogaethau anfrodorol ymwthiol (INNS), llygredd a gorddefnydd.
• Ecosystemau: Nid yw llawer o’n hecosystemau yn gallu gwrthsefyll newid annisgwyl neu nas rhagwelwyd. Mae hyn yn peryglu gallu ein hamgylchedd naturiol i ddarparu nifer o fanteision llesol hanfodol yn awr ac yn y dyfodol.
• Adferiad seiliedig ar Fyd Natur: Bydd hinsawdd newidiol yn debygol o effeithio ar gyflwr a dosbarthiad cynefinoedd a rhywogaethau, ac mae cynefinoedd sydd wedi diraddio yn cyfrannu at y newid yn yr hinsawdd. Fodd bynnag, trwy sicrhau adferiad i fyd natur, gallwn ni hefyd fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.
• Asedau Naturiol: Mae’r trigolion yn gwerthfawrogi ac yn gosod gwerth ar yr asedau naturiol yn CNPT, ond mae angen gwneud mwy i’w gwella a’u helpu i ymadfer yn y tymor hir.
• Llifogydd a Newid Arfordirol: Risgiau llifogydd a newid arfordirol i gartrefi, cymunedau, busnesau, seilwaith ac ecosystemau yw un o’r prif bryderon ynghylch y newid yn yr hinsawdd yn CNPT.
• Poblogaeth sy’n Newid: Mae cynnydd parhaus yn y boblogaeth hŷn, a hefyd mewn aelwydydd un person, yn debygol o fod yn ffactor sy’n cyfrannu at gynyddu unigrwydd ac ynysu. Mae’r bwlch o ran hyd oes disgwyliedig a hyd oes iach disgwyliedig hefyd yn arwydd o bwysau cynyddol ar wasanaethau cymdeithasol a iechyd.
• Mannau Iach: Wrth gymharu â Chymru, gan CNPT mae un o’r deietau lleiaf iach a’r lefelau isaf o weithgaredd corfforol. Mae angen gwaith i wrthweithio’r duedd gynyddol o ran gordewdra, ac mae modd gwneud mwy i sicrhau bod y mannau lle rydyn ni’n byw yn ein helpu i fod yn actif a bwyta’n dda.
• Llesiant Meddyliol: Adroddodd trigolion CNPT am lesiant meddyliol cymharol gadarnhaol yn Arolwg Cenedlaethol Cymru. Fodd bynnag, mae angen i ni fod yn barod ar gyfer cynnydd mewn lefel isel o lesiant meddyliol a chyflyrau iechyd meddwl wrth i wir effeithiau’r pandemig ddod i’r amlwg.
• Tai: Mae angen mwy o dai fforddiadwy arnon ni yn CNPT, gyda 1,037 o gartrefi newydd yn ofynnol erbyn 2033. Mae’n galonogol bod 434 o unedau newydd wedi cael eu hadeiladu rhwng 2018 a 2021.
• Ansawdd Aer: Er bod ansawdd aer ar draws CNPT wedi gwella yn ystod y degawd diwethaf, mae’n dal yn faes sy’n destun pryder ac yn flaenoriaeth allweddol er mwyn gwella iechyd cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.
• Amddifadedd a Thlodi: Mae crynodiadau uchel o amddifadedd a thlodi yn parhau mewn ardaloedd yn CNPT. Bydd y cynnydd presennol mewn costau byw yn effeithio fwyaf ar yr ardaloedd hyn.
• Incwm Aelwydydd: Mae incwm aelwydydd wedi gostwng ar draws Cymru yn ystod y pandemig, ac mae’n fwy tebygol o effeithio ar bobl sydd ag incwm isel i ganolig.
• Effaith COVID-19: Mae Covid-19 wedi cynyddu anghydraddoldeb yn gyffredinol yn CNPT, ac mae’r grwpiau yr effeithiwyd waethaf arnynt yn cynnwys Lleiafrifoedd Ethnig a Phobl Ddu, benywod a phobl ifanc.
• Addysg: Ymddengys bod y pandemig wedi cynyddu anghydraddoldeb o ran cyrhaeddiad addysgol, ac mae’n bosibl nad yw hyd a lled yr effaith hon yn amlwg eto.
• Risg Amgylcheddol: Y rhai mwyaf bregus yn y gymdeithas sy’n wynebu’r risg amgylcheddol uchaf fel ansawdd aer gwael a llifogydd. Disgwylir i’r newid yn yr hinsawdd waethygu’r anghydraddoldebau hyn, ac mae perygl y bydd ymatebion i’r newid yn yr hinsawdd yn gallu rhoi baich anghymesur ar bobl a chymunedau bregus.
• Ysbryd Cymunedol: Mae cymunedau wedi cyd-dynnu yn ystod y pandemig, ac mae’r trigolion wedi nodi’r cynnydd o ran ysbryd cymunedol a chefnogaeth. Dylid cefnogi cymunedau i ffurfio’u dyfodol eu hunain.
• Cymunedau Diogel: Bernir yn gyffredinol bod CNPT yn lle diogel i fyw. Bu gostyngiad mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol a thrais yn erbyn benywod, er ein bod wedi gweld tuedd ar i fyny o ran seiberdroseddu. Mae trigolion CNPT yn pryderu ynghylch cyffuriau yn y cymunedau.
• Cymunedau Cysylltiedig: Er bod cysylltiadau da rhwng trefi Castell-nedd, Port Talbot a Phontardawe a’i gilydd ac â gweddill Cymru, mae’r cysylltiadau trafnidiaeth yn ardaloedd y cymoedd yn wael ac yn cyfrannu at ynysu’r bobl sy’n byw yno yn gymdeithasol ac yn economaidd.
• Plant a Phobl Ifanc: Mae trigolion CNPT yn teimlo ei fod yn bwysig bod gan blant a phobl ifanc fwy o leoedd i fynd iddyn nhw a phethau i’w gwneud.
• Treftadaeth Falch: Mae pobl yn CNPT yn falch o’u treftadaeth a’u cymunedau Cymreig traddodiadol. Mae angen i ni ddiogelu a chadw ein diwylliant, ein hanes a’n treftadaeth naturiol gyfoethog, gan gadw cynhwysedd mewn golwg wrth i’n diwylliant amrywio mwyfwy a gweithio i ddileu stigma hanesyddol sy’n gysylltiedig â’r ardal trwy hyrwyddo’r ardal.
• Yr Iaith Gymraeg: Er bod nifer y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng, mae’r dysgu a’r cyfleoedd addysgol Cymraeg yn cynyddu. Mae angen i ni ddarparu mwy o gyfle i ddefnyddio’r Gymraeg yn CNPT er mwyn cynyddu hyder y trigolion.
• Celfyddydau a Diwylliant: Mae tangyllido i’r celfyddydau a diwylliant wedi cael effaith negyddol ar yr hyn a gynigir dros y blynyddoedd, ac mae’r pandemig wedi effeithio ymhellach ar hynny. Rydyn ni’n gwybod bod mynediad at y pethau hyn yn ffactor pwysig ar gyfer gwella llesiant.
• Gwirfoddoli: Gan fod nifer cynyddol o asedau cymunedol (e.e. canolfannau cymunedol, llyfrgelloedd a safleoedd treftadaeth) yng ngofal gwirfoddolwyr sy’n dibynnu ar arian grant, mae angen i ni roi cefnogaeth i sicrhau bod hyn yn gynaliadwy, fel nad yw asedau o’r fath yn cael eu colli.
• Defnydd o Adnoddau a Datgarboneiddio: Mae CNPT yn defnyddio 2.5 gwaith yn fwy o adnoddau fesul person nag y gall y blaned gynnal. Ar ben hynny, mae CNPT yn gyfrannwr pwysig at garbon yng Nghymru, ac mae’n wynebu her i gydbwyso nodau Sero Net yn erbyn manteision economaidd ei gyflogwyr ynni/allyriadau uchel.
• Argyfwng yr Hinsawdd a Byd Natur: Mae CNPT yn arweinydd ym maes ynni adnewyddadwy, gyda chapasiti gosodiadau ynni adnewyddadwy sydd ymhlith yr uchaf yng Nghymru. Mae prosiectau cyfredol i adfer cynefinoedd cyfagos megis cipio carbon o fawndiroedd yn dangos ffyrdd o sicrhau manteision lluosog er mwyn mynd i’r afael ag argyfyngau’r Hinsawdd a Byd Natur yr un pryd.
• Personoliaethau Enwog: Mae CNPT wedi cynhyrchu actorion, artistiaid a phersonoliaethau chwaraeon bydenwog, sy’n rhoi hunaniaeth fyd-eang i ni, ac mae modd harneisio hynny ymhellach i hyrwyddo’r rhanbarth.
ClicioCliciwch yma i ddarllen mwy